Beth bynnag am hynny, mae prynu tocyn i fynd i weld Meic wastad wedi bod braidd fel prynu tocyn loteri. Ar noson dda, fyddai yna neb gwell, a byddai rhywyn yn teimlo'n ffodus iawn o gael y cyfle i weld y cawr yn perfformio'n fyw. Jacpot. Ond ar noson wael byddai unai:
- ddim yn dod i'r golwg o gwbl;
- perfformiad mor shambolic y byddai senario 1 wedi bod yn well.
Fel bocsiwr ffair a fyddai'n dal ati i gael ei ddyrnu nes fod pob synnwyr wedi ei adael am na fedrai wneud dim arall, ymddengys nad yw Meic yn gwybod pryd i sdopio. Yr un mor wir efallai yw nad ydym ni fel Cymry, fel ffans, fel edmygwyr, yn gwybod pryd i adael iddo sdopio - gan ddal i obeithio yr enillwn ni'r jacpot yna unwaith eto rywbryd ond i ni brynu digon o docynau.
Mae'n drist o beth i orfod dweud am y canwr mwya dylanwadol a thalentog a welodd canu poblogaidd Cymraeg erioed, ond byddai'n well i bawb petai'r gigs ffarwel wedi bod yn, wel, gigs ffarwel. Fel arall, mae peryg y bydd mwy o bobl yn cofio Meic Stevens fel ag y mae heddiw yn hytrach nag fel ag y bu, a byddai hynny'n drueni gwirioneddol.
Ond rheol #1 cerddoriaeth blues: dyw oedran ddim yn stopio dyn-blues.
ReplyDeleteAi canwr blues yw Meic Stevens? Ddim yn siwr. Ac nid ei oed yw'r broblem beth bynnag - mi fyddai'n dal i gwynhau gwylio Heather Jones, Jarman, Steve Eaves ac eraill
ReplyDeleteOnd mae o'n ôl ar ei orau erbyn hyn - dwi wedi ei weld rhyw dair neu bedair gwaith yn y ddwy flynedd diwethaf ac roedd yn wych bob tro. Y math o gig sy'n gwneud iti deimlo'n freintiedig i fod yno.
ReplyDelete