12/08/2011

Beirniadaeth drom y Gadair

Rwan, tydw i ddim yn llenor o unrhyw fath. Yn wir, faswn i ddim yn dadlau efo unrhywun fase'n fy ngalw yn ffilistiad yn y maes yma. Wedi'r cyfan, er bod yn ddarllenwr brwd mi fyddai'n osgoi nofelau ar y cyfan am y rheswm syml nad ydyn nhw'n wir.

Unwaith y flwyddyn fodd bynnag, mi fyddai'n gwneud rhyw fymryn o ymdrech i addysgu fy hun rwyfaint drwy ddarllen ychydig ar Gyfansoddiadau a Beirniadaethau yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae fy mhrif ddiddordeb bob amser yng nghystadleuaeth y gadair, a roedd hynny yn fwy giwr nag arfer eleni yn sgil buddugoliaeth Rhys Iorwerth. Yn ol fy arfer felly, dyma ddarllen y beirniadaethau yn gyntaf er mwyn cael rhyw flas o'r rhai na ddaeth i'r brig, yn ogystal a chael cyflwyniad i gynnwys a chrefft y gerdd/cerddi buddugol. Gan fod y gerdd ei hun yn gallu bod reit anodd ei deall, mae'r feirniadaeth yn gallu bod yn ganllaw defnyddiol i lleygwr fel fi.

Ond nid felly yr oedd hi eleni. Heb os, talent mawr Rhys Iorwerth ydi ei fod yn gallu sgwennu cerddi caeth sy'n darllen yn rhwydd ac heb fod angen defnyddio geiriau anghyfarwydd neu amharu lawer ar drefn arferol cystrawen i orfodi cynghanedd. Roedd y cerddi buddugol felly yn chwa o awyr iach. Ar y llaw arall, doedd dim posib gwneud pen na chynffon o un o'r beirniadaethau!

Rhaid i mi gyfaddef nad oes gen i syniad pwy ydi Donald Evans, heblaw ei bod yn rhaid ei fod yn lenor o fri i gael beirniadu cystadleuaeth y Gadair. Pob parch iddo am hynny. Un talent nad yw'n eiddo arni fodd bynnag ydi ysgrifennu rhyddiaeth eglur, ddealladwy. Dwi wedi ei darllen ddwywaith ebryn hyn, a wir, mi fydddai'n haws petai hi mewn Cymraeg Canol. Bydd rhaid i chi droi at y Cyfansoddiadau i'w gweld yn gyflawn, ond dyma chi ddau ddyfyniad i roi blas....

...byddai arfer disgyblaeth tipyn amgenach o gryno ddetholus gyda'r deunydd wedi bod yn dac i gyfannu'r cynnig hwn yn llawer mwy gorffenedig o gelfyddydol beryglus ymhob dim at y teip arbennig yma o ymgiprys.
...dyma'r bardd sicraf ei gyneddfau creadigol yn ei ddewiniaeth i argyhoeddi darllenydd, a'i gwbl ddiwallu hefyd, parthed ffasedau amlochrog ac anochel bywyd, gyda'r dirwyniad graddol i'r pen o'r dehongliad ffigurol garwriaethol a wnaeth o awgrymusedd ac ysbryd y testun, arwyddlun o gwrs bywyd ei hunan, a hynny o safbwynt eu hegnion cyfoes fel o rym eu parhad oesol.


Pardwn???? Sori???? Eeeeeh????

2 comments:

  1. Mae'r parodi wedi ysgrifennu ei hun.

    [Falch dy fod yn blogio eto!]

    ReplyDelete
  2. Rhaid i mi gyfaddef nad oes gen i syniad pwy ydi Donald Evans...

    Mae e wedi ennill y Dwbl (Cadair/Coron), ddwywaith. Efallai nid sgwennu rhyddiaieth yw ei gryfder pennaf, ond mae'n debyg ei fod e wedi sgwennu pwt bach o farddoniaeth werthchweil yn ei amser.

    ReplyDelete