17/08/2011

Sialens y 15 copa a hen, hen fwgan

Fel cerddwr a mynyddwr brwd, mae wedi bod yn uchelgais gen i ers tro i gyflawni sialens y 15 copa, sef dringo'r holl gopaon yng Nghymru sydd dros 3,000 troedfedd mewn un niwrnod. Mae hyn yn bosib gan fod y pymtheg i gyd yn Eryri, ac yn wir wedi eu rhannu rhwng tair cadwyn o fynyddoedd sydd drws nesaf i'w gilydd - Pedol yr Wyddfa, Y Glyderau a'r Carneddau.

Ond cyn gwneud y sialens wrth gwrs, y peth call fyddai 'concro' bob copa yn unigol yn gyntaf er mwyn cyfarwyddo a'r gwahanol fynyddoedd a dyna'n union dwi wedi bod yn ceisio ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf. Yr wythnos diwethaf mi es fyny'r Carneddau, gan olygu fod tri ar ddeg o'r pymtheg wedi eu gwneud. Dim ond dau ar ol felly - Tryfan a'r Grib Goch.

Rwan, bydd unrhywun sy'n gyfarwydd ag Eryri yn gwybod nad oes rheswm ymarferol na daearyddol pam y dylai'r ddau yma, a'r ddau yma yn unig, fod wedi eu neilltuo. Ac fe fyddech yn iawn. Oherwydd mae'r rheswm eu bod nhw ar ol yn un cwbl bersonol - mae nhw'n codi arswyd arnai. A'r rheswm mae arnai eu hofn nhw ydi oherwydd fy mod i ers yn blentyn wedi bod ag ofn afresymol o uchderau sydd hyd heddiw yn cyfyngu ar yr hyn y gallaf ei wneud efo fy mywyd.

Rwan, dwi'n meddwl allai wneud Tryfan - er na welwch chi fi'n neidio o Adda i Efa ar ol cyrraedd y top! Mae'r Grib Goch yn fater gwahanol fodd bynnag. Sut all rywun sy'n mynd yn nerfus ar ben ysgol, a sydd cyn heddiw wedi gorfod stopio'r car ar ol gyrru dros Bont Hafren er mwyn chwydu, hyd yn oed feddwl am fynd i fyny i'r fan yma? Sut, pan ma mhen i'n troi jest wrth wylio'r fideo 'na? A cyn i neb ddweud 'wnei di ddim disgyn', dwi'n gwybod hynny - ond nid dyna'r pwynt. Byth, nid dyna'r pwynt!

Mi ydw i'n benderfynol o fynd fodd bynnag, os nad eleni yna yr haf nesa fan pella. Ac yn hyn o beth mi ydw i wedi fy ysbrydoli gan erthygl a ddyddiadur fideo y newyddiadurwr David Lawson, gwr sydd yn amlwg yn rhannu fy hoffter o fynydda a fy ofn o uchder. Aeth David ar gwrs hypnotherapi er mwyn gorchfygu ei ofn yntau o uchder yn unswydd er mwyn iddo allu croesi'r Grib Goch. Does gen i ddim bwriad gwneud dim byd tebyg ar hyn o bryd, ond os caf i brofiad tebyg i'r hyn gafodd David ar ei ymweliad cyntaf o a'r Grib yna mae'n bosib iawn y byddai'n rhaid i mi ystyried cymryd cam radical o ryw fath.

Oes oes unrhyw ddarllenwyr sydd wedi croesi'r Grib Goch, byddai'n dda gen i glywed am eich profiadau, yn arbennig felly os ydach chi'n rhannu fy ffobia.

No comments:

Post a Comment