08/08/2011

Meic Stevens - amser rhoi'r gitar yn y to?

Ar y nos Wener, mi es i gig Meic Stevens yn yr Orsaf Ganolog. Byddwch yn cofio mae'n siwr fel y bu i Meic chware sawl gig ffarwel yn ddiweddar, gan ei fod am ymfudo i Ganada i dreulio ymddeoliad hir a hapus gyda hen gariad iddo. Wel mae Meic yn ol, ac os yw Dim Lol i'w gredu (!) fe neidiodd ar yr awyren gyntaf adref ar ol canfod fod ei bartner newydd yn disgwyl iddo gysgu efo hi.

Beth bynnag am hynny, mae prynu tocyn i fynd i weld Meic wastad wedi bod braidd fel prynu tocyn loteri. Ar noson dda, fyddai yna neb gwell, a byddai rhywyn yn teimlo'n ffodus iawn o gael y cyfle i weld y cawr yn perfformio'n fyw. Jacpot. Ond ar noson wael byddai unai:
  1. ddim yn dod i'r golwg o gwbl;
  2. perfformiad mor shambolic y byddai senario 1 wedi bod yn well.
Yn anffodus, erbyn hyn ymddengys nad oes posib o gwbl enill y jacpot, ac fod unrhyw berfformiad ble mae'n cyrraedd y diwedd heb droi'n llanast llwyr yn gorfod cyfri fel 'noson dda'. Ond nid bai Meic ydi hyn wrth gwrs; tydi safon dynion sain a gitars ddim fel y buon nhw chwaith mae'n debyg! Bellach, mae gwylio Meic yn brofiad trist sy'n gallu ymylu ar 'voyeurism' wrth wylio hen ddyn a gyfranodd gymaint yn gwneud sioe o'i hun o flaen torf sydd ddim yn gwybod p'un ai i chwerthin neu grio.

Fel bocsiwr ffair a fyddai'n dal ati i gael ei ddyrnu nes fod pob synnwyr wedi ei adael am na fedrai wneud dim arall, ymddengys nad yw Meic yn gwybod pryd i sdopio. Yr un mor wir efallai yw nad ydym ni fel Cymry, fel ffans, fel edmygwyr, yn gwybod pryd i adael iddo sdopio - gan ddal i obeithio yr enillwn ni'r jacpot yna unwaith eto rywbryd ond i ni brynu digon o docynau.

Mae'n drist o beth i orfod dweud am y canwr mwya dylanwadol a thalentog a welodd canu poblogaidd Cymraeg erioed, ond byddai'n well i bawb petai'r gigs ffarwel wedi bod yn, wel, gigs ffarwel. Fel arall, mae peryg y bydd mwy o bobl yn cofio Meic Stevens fel ag y mae heddiw yn hytrach nag fel ag y bu, a byddai hynny'n drueni gwirioneddol.

3 comments:

  1. Ond rheol #1 cerddoriaeth blues: dyw oedran ddim yn stopio dyn-blues.

    ReplyDelete
  2. Ai canwr blues yw Meic Stevens? Ddim yn siwr. Ac nid ei oed yw'r broblem beth bynnag - mi fyddai'n dal i gwynhau gwylio Heather Jones, Jarman, Steve Eaves ac eraill

    ReplyDelete
  3. Ond mae o'n ôl ar ei orau erbyn hyn - dwi wedi ei weld rhyw dair neu bedair gwaith yn y ddwy flynedd diwethaf ac roedd yn wych bob tro. Y math o gig sy'n gwneud iti deimlo'n freintiedig i fod yno.

    ReplyDelete