08/08/2011

Cowbois Rhos Botwnnog a Bob Delyn

Os mai un o isafbwyntiau'r Eisteddfod oedd gweld Meic Stevens yn siomi eto, fe wnaeth perfformiadau gan Cowbois Rhos Botwnnog a Bob Delyn a'r Ebillion fwy na gwneud iawn am hynny.

Ar y llwyfan mawr ger y Bar Guinness ar y nos Sadwrn ola y gwelais i'r Cowbois. Heb os, dyma un o'r bandiau Cymraeg mwya talentog a chyffrous i ymddangos dros y blynyddoedd diwetha (dim ond Yr Ods sy'n dod yn agos dwi'n meddwl) ac roedd y perfformiad nos Wener yr un gorau i mi ei weld eto. Yr uchafbwynt heb os oedd y gan ola - perfformiad epic o Ffarwel i Langynfelach Lon a oedd yn ddeng munud o bleser pur. Os ydach chi ymysg y bobl sydd yn dal i fod heb wrando ar yr albwm ddiweddara 'Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn', dylech chi wneud iawn am hynny ar unwaith.

Ymlaen wedyn i'r Orsaf Ganolog ar gyfer Bob Delyn a'r Ebillion. Roedd yna adeg tua deng mlynedd yn ol pan oeddwn i'n teimlo fel taswn i'n gweld Bob Delyn yn amlach nag oeddwn i'n gweld fy nheulu, ond tydw i ddim yn meddwl i mi eu gweld nhw'n perffomio'n fyw ers Steddfod yr Wyddgrug 2007 tan yr wythnos yma. Hawdd felly oedd i mi fod wedi anghofio jest gymaint o hwyl ydi eu gwylio nhw a chystal un am gyfathrebu efo cynulleidfa ydi Twm Morys. Fe wnaeth cameo gan Geraint Lovgreen ar gyfer y ddwy gan ola hefyd ychwanegu at y sbort a gig a oedd yn ddiwedd teilwng i'r Eisteddfod. Wnai ddim gadael i bedair mlynedd arall basio heb eu gweld nhw eto.

1 comment:

  1. Gwelais i Bob Delyn ym Maes C ddechrau'r wythnos, y gig gorau dw i wedi gweld ganddyn nhw erioed, ac i neuadd bron yn hollol wag. Bydde'n braf 'sen nhw'n recordio rhywbeth newydd - mae caneuon newydd yn eu set, ond oes?

    ReplyDelete