Tua deunaw mis yn ol mi fues yn ddigon ffodus i gael ymweld a bragdy Otley yng Nghilfynydd ger Pontypridd. Cawsom groeso cynnes gan Nick Otley, dyn hynaws iawn sydd a gweledigaeth glir ar gyfer ei gwmni a'i ddiwydiant fel ei gilydd.
Ond ddoeddwn i heb flasu dim o gwrw'r bragdy tan ddoe - yn bennaf gan nad yw ar gael yn yr un o'r siopau na thafarndai y byddaf yn eu mynychu. Ond, a minnau wedi dod ar draws pecyn pedair potel yn y Big Cheese yng Nghaerffili rai wythnosau'n ol, dyma ddechrau arnynt o'r diwedd, gan gymryd yr 04 Columb-O yn gyntaf.
Wedi i mi gael fy mhlesio i'r fath raddau gan Rooster's Iron Man IPA o Swydd Efrog, mae'n anffodus na allai'r cwrw lleol yma fy nghyffroi i'r fath raddau. Lliw melyn golau iawn tebyg i wellt sydd iddo, ac mae'r arogl hefyd yn dwyn i gof laswellt neu wair sych. Mae'r blas yn chwerw ac yn finiog - braidd ormod felly at fy nhast i - er fod peth melyster 'pinafalaidd' hefyd. Ar yr ochr gadarnhaol mae'r blas ffresh a'r gorffeniad yn fyr a sych. Hops Columbus a ddefnyddiwyd i chwerwi, gyda chyfuniad o Columbus a Cascade ar gyfer yr arogl.
Does dim yn wrthun fel y cyfryw am y cwrw yma, ond tydi o ddim yn un y buaswn yn dewis ei brynu eto chwaith, heblaw efallai y cawn i gyfle i'w brofi'n syth o'r gasgen yn hytrach nag o'r botel.
Enw: 04 Columb-O
Bragdy: Otley
ABV: 4.0%
Sgôr: 5/10