07/09/2011

Adolygiad: Rooster's Iron Man IPA

Ymysg rhinweddau lawer fy nhafarn leol (tri drws i ffwrdd - allai hi ddim bod llawer fwy lleol!) yw fod ganddi hyd at ddau gwrw gwestai ar fynd ar unrhyw adeg. Rwy'n gobeithio y bydd y cwrw rheiny yn ffynhonell dda o adolygiadau ar gyfer y blog hwn.

Ar hyn o bryd, Rooster's Iron Man IPA sydd ar fynd. Yn wahanol i ambell gwrw sy'n dwyn yr enw, mae hwn yn IPA o'r iawn ryw, gyda ABV o 5% a digon o hops i ffrwydro'ch ffroenau. Mae arogl a blas 'citrus' (yn arbennig grawnffrwyth) yn amlwg o'r cychwyn cyntaf, ac oherwydd hyn roeddwn yn tybio mai hops Cascade oedd i'w cael yma, wedi eu cyfuno o bosib gyda Goldings.

Ond o wneud ychydig o ymchwil ymddengys mai hops Citra a ddefnyddiwyd. Doeddwn i erioed wedi clywed am y rhain o'r blaen, sydd yn ddim syndod efallai o ystyried mai prin dair mlynedd yn ol y'u datblygwyd, a hynny yn yr Unol Daleithiau. Yn sicir, tydyn nhw ddim ar gael yn fy siop bragu cartre' leol i eto!

Rhagoriaeth arall y cwrw hwn ydi ei ffreshni, a'i 'crispness' (cyfieithiad?!?!), sydd eto yn deillio i raddau helaeth o'r hops gan fod cynnwys asid alpha y Citra yn dros 10%.  Fel y gellid ei ddisgwyl gyda chwrw o'r fath, prin y gellir blasu unrhyw felyster. Cwrw i dorri syched go iawn! Ynghyd a lliw euraidd, clir, a phen sy'n para hyd y diwedd, mae'n anodd canfod bai ar y cwrw yma. Yn wir, teg dweud fod gan y ceiliog hwn bob hawl i glochdar!

Enw: Iron Man IPA
Bragdy: Rooster's
ABV: 5.0%
Sgôr: 9/10

1 comment:

  1. Mmms, swnio'n flasus. Heb fod i dy local eto - am wneud mwy o ymdrech rwan o ddeall bod cwrw gwadd yno a ddim jyst arlwy Brains.

    IPA ydy fy hoff fat o gwrw, un enwedig un steil Americanaidd. Wedi cael dau neis yn ddiweddar, un gan fragdy Saltaire ac un o'r enw UPA gan Untapped o Gaerdydd.

    Gyda llaw, dylai dolen at yr adolygiad yma ymddangos fan hyn mewn wap: http://adolygiad.com/?s=cwrw

    ReplyDelete